Browser does not support script.
maethu yn sir y fflint
Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth a dod yn ofalwr maeth.
Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi'n maethu gyda'ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi eisoes yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru.
Os ydych chi’n ofalwr maeth gydag asiantaeth breifat ar hyn o bryd, a ph’un a oes gennych chi blentyn neu berson ifanc yn byw gyda chi eisoes ai peidio, mae gennym ni lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo.
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Sir y Fflint.
Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol dielw, ac mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth maethu a ddarparwn.
Ein cyfrifoldeb cyfreithiol fel yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch yn gysylltiedig â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal plentyn. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a'n gofalwyr maeth. Rydym yn deall realiti bywyd yn Sir y Fflint.
Mae bod yn rhan o’n tîm yn Sir y Fflint yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu, eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi fel rhan allweddol o’n tîm maethu.
Mae trosglwyddo i ni yn haws nag y gallech feddwl. Does ond angen i chi gysylltu â'n tîm i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth.
Byddwn yn siarad am pam rydych am drosglwyddo ac a allwn fodloni eich disgwyliadau maethu.
Pan fyddwch chi’n barod i drosglwyddo, byddwn ni yma i’ch cefnogi drwy gydol y broses a sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo mor syml â phosibl.