Cofnodwyd: Friday 3rd September 2021
Math arbennig o faethu yw lleoliad maeth mam a’i phlentyn lle bydd rhiant ifanc, mam a babi fel arfer, yn dod i aros gyda chi am hyd at 4 mis. Bydd angen help a chyngor ychwanegol ar y fam nes y bydd hi’n gallu gofalu am ei babi yn ddiogel ar ei phen ei hun.
Os ydych chi wedi ystyried gofalu am fam sydd yn ei harddegau a’i babi, dyma beth sydd angen i chi ei wybod. Mae gofalwyr maeth go iawn yn rhannu eu profiad a’r 10 prif beth mae angen i chi eu gwybod am faethu mam a’i phlentyn.
10 peth mae angen i chi eu gwybod am faethu mam a’i phlentyn
- Pwy ydy’r mamau?
- Pam mae angen cefnogaeth arnynt?
- Ydy maethu mam a’i phlentyn yn gweithio?
- Lle fydd y babi’n cysgu a phwy fydd yn codi yn ystod y nos i’w fwydo?
- Fel gofalwr maeth, am beth ydw i’n chwilio?
- Ydy partneriaid yn saff?
- Beth os bydd gen i bryderon am ddiogelwch y babi?
- Am ba mor hir bydd y mamau a’r babis yn aros?
- Beth sy’n digwydd pan fydd maethu rhiant a phlentyn yn mynd o’i le?
- Beth fydd yn digwydd pan fyddan nhw’n symud allan?
1. Pwy ydy’r mamau?
Mamau ifanc yn eu harddegau yw’r mamau fel arfer, ond rydym wedi cael mamau yn eu 20au, 30au a 40au hefyd. Mae ambell dad wedi defnyddio ein gwasanaeth hefyd. Yn aml byddan nhw wedi cael profiad o rianta gwael eu hunain. Byddan nhw wedi cael plentyndod anodd neu wedi bod yn derbyn gofal eu hunain. Mae’n bosibl y bydd gan rai mamau gyflwr iechyd meddwl, sy’n golygu bod angen cefnogaeth ac arsylwi ychwanegol arnynt.
Yn aml ni fydd gan y mamau gefnogaeth teulu a ffrindiau o’u hamgylch. Yn aml byddant wedi dioddef cam-drin domestig. Fel arfer mae’r mamau yn ferched diamddiffyn sydd â hunan-fri isel iawn a diffyg hyder.
“Rydw i wedi gofalu am 18 mam, a 2 dad. Maen nhw wedi dod o gefndiroedd ofnadwy, pob math o gam-drin. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi bod yn ifanc iawn. Y broblem fwyaf yw nad ydyn nhw wedi cael profiad cadarnhaol o rianta eu hunain. Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn y system ofal eu hunain neu wedi llithro trwy’r rhwyd” Gofalwr Maeth
Siaradwch â ni am fod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn
2. Pam mae angen cefnogaeth arnynt?
Mae angen arweiniad a chefnogaeth ar y mamau i fod yn rhiant i’w plentyn. Mae angen iddyn nhw ddangos eu bod yn gallu cadw eu babi’n saff. Yn aml ni fyddan nhw wedi cael profiad cadarnhaol o rianta eu hunain. Maen nhw’n ei chael yn anodd iawn gwybod beth sydd ei angen ar eu plentyn. Mae rhai mamau yn gallu ymdopi’n rhwydd ag ochor ymarferol gofalu am blentyn; gallan nhw baratoi bwyd, golchi dillad, newid clytiau ac ati ond maen nhw’n ei chael yn anodd iawn rhoi’r agosatrwydd emosiynol sydd ei angen arnynt i’w plentyn.
Yn aml bydd y mamau yn ei chael yn anodd deall pwysigrwydd darparu amgylchedd ysgogol. Efallai eu bod ar eu ffôn neu’n gwylio’r teledu ac yn methu rhoi eu sylw llawn i’w plentyn. Gall y diffyg symbyliad hwn effeithio ar ddatblygiad y plentyn.
Bydd y gofalwr maeth yn darparu cefnogaeth ac arweiniad. Byddan nhw’n annog y rhieni i gyflawni tasgau, a byddan nhw’n egluro sut gallan nhw wella. Byddan nhw’n eu canmol pan fyddan nhw’n gwneud yn dda. Mae meithrin hyder a hunan-fri yn rhan bwysig o rôl y gofalwr maeth.
“I ddechrau, mae angen i chi ennill eu hymddiriedaeth. Rydych chi’n dechrau’n araf drwy ofalu am y mamau fel eu bod nhw’n gallu gwneud yr un fath i’w babis. Pan fyddan nhw’n dod adref o’r ysbyty, maen nhw wedi blino, felly rydych chi’n coginio prydau iddyn nhw, eu helpu i gael seibiant a dangos iddyn nhw bod ots gennych chi” Gofalwr Maeth
Dysgwch am fod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn
3. Ydy o’n gweithio?
Mae lleoliadau maeth ar gyfer rhiant a phlentyn gyda’i gilydd yn rhoi cyfle gwych i famau (a thadau) ddysgu sut i fod yn rhiant i’w plentyn. Gallan nhw brofi i’w hunain ac eraill fod y gallu ganddyn nhw a’u bod yn awyddus i lwyddo. Mae lleoliadau maeth ar gyfer rhiant a phlentyn gyda’i gilydd yn gweithio. Mae rhieni sydd am lwyddo yn aml yn gwneud hynny.
Mae rhai rhieni yn teimlo bod gofalu am eu plentyn yn rhy anodd. Weithiau byddan nhw’n ei chael yn anodd blaenoriaethu anghenion eu plentyn o flaen eu hanghenion eu hunain. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu tuag at bartner sy’n eu cam-drin. Gallai bod yn gaeth i gyffuriau effeithio ar hyn. Mae’n bosibl y bydd gan y rhieni anghenion dysgu sy’n effeithio ar eu gallu i ddatblygu eu sgiliau rhianta.
Neu efallai nad yw’r rhiant yn ymdopi oherwydd ei fod yn ormod iddynt yn emosiynol.
“Y rhan fwyaf o’r amser, mae’n gweithio. Bydd y babi yn aros gyda’r rhiant a byddan nhw’n symud allan gyda’i gilydd. Mae rhai ohonyn nhw’n dweud nad ydyn nhw am adael fy nhŷ. Os yw’n iawn, byddan nhw’n mynd gyda’r babis, os nad yw’n iawn, byddan nhw’n aros.
Weithiau byddan nhw’n cyfaddef nad ydyn nhw’n ymdopi, ac yn dweud bod rhaid iddyn nhw fynd. Gallwch chi weld nad ydyn nhw’n ymdopi ond mae’n rhaid i chi adael iddyn nhw gario mlaen. Maen nhw’n poeni gymaint nad ydyn nhw’n ymdopi, maen nhw’n dod atoch chi’n crio ac wedi ypsetio.
Rydw i’n rhoi popeth galla i ei roi i’r mamau hyn. Rydw i’n gwneud popeth galla i ei wneud i helpu. Weithiau maen nhw’n mynd heb y babis. Mae hynny wedi digwydd deirgwaith i mi. Mae’n anodd iddyn nhw wneud hynny, ond maen nhw am roi bywyd gwell i’w babis, ac maen nhw’n gwybod oherwydd maen nhw wedi bod yno eu hunain” Gofalwr Maeth
4. Lle fydd y babi’n cysgu a phwy fydd yn codi yn ystod y nos i’w fwydo?
Bydd y babi’n cysgu yn ystafell ei riant fel arfer. Os credir bod y rhiant yn risg, oherwydd eu bod dan ddylanwad alcohol, yn drist neu’n flin, byddai’r gofalwr maeth yn cael arweiniad i ofalu am y babi yn eu hystafell eu hunain.
Disgwylir i’r rhieni fwydo’r babi bob amser yn y pen draw. I ddechrau, bydd y gofalwyr maeth yn darparu gymaint o gefnogaeth ag sydd ei angen, gall hyn fod yn oruchwyliaeth a chefnogaeth hyd at 24 awr. Os bydd angen cefnogaeth ar y rhiant gyda bwydo’r babi yn ystod y nos, bydd y gofalwr yn codi yn y nos gyda nhw i wneud hyn.
Dros amser, dylai’r rhiant deimlo’n fwy hyderus a bydd yn ymdopi gyda bwydo’r babi bob amser heb gefnogaeth gan y gofalwr maeth. Mae hyn yn amrywio o’r naill riant i’r llall. Bydd rhai rhieni’n dod i arfer â hyn yn gyflym iawn, ond bydd rhai rhieni eraill yn cymryd mwy o amser.
Gall fod yn anodd i rai rhieni wybod beth sydd ei angen ar y plentyn o wrando arno’n crio. Ydi’r babi’n crio oherwydd ei fod eisiau bwyd, wedi blino, neu oes gwynt arno? Bydd y gofalwyr maeth yn cefnogi’r rhiant i ddeall pam mae’r babi’n crio.
“Os bydd pryder sylweddol, byddai’r lleoliad dan oruchwyliaeth lawn – ni fyddai’r gofalwr maeth yn mynd i unman heb y babi – felly yn yr achosion hyn, mae’r babi wedi cysgu yn yr ystafell gyda mi pan fyddan nhw’n cyrraedd i ddechrau. Rydw i wedi cael 4 achos fel hyn. Pan fydd y babi’n deffro yn y nos, byddwn i’n mynd i lawr er mwyn i’r fam ei fwydo.
Pan fyddwch chi’n teimlo bod y babi’n saff a bod y fam am ddeffro, bydd y babi’n cysgu yn ystafell y fam. Byddai gen i system intercom i glywed y babi’n crio a gwneud yn siŵr bod y fam yn codi” Gofalwr Maeth
5. Fel gofalwr maeth, am beth ydw i’n chwilio?
Fel gofalwr maeth, byddwch chi’n goruchwylio bob amser. Ydi’r rhiant yn rhoi ei sylw llawn i’r plentyn? Ydi’r rhiant yn treulio mwy o amser ar ei ffôn na gyda’r plentyn? Am ba mor hir mae’r rhiant yn gadael i’r plentyn grio? Ydi’r rhiant yn gallu gwneud mwy nag un peth ar unwaith, e.e. os bydd y rhiant yn canolbwyntio ar ryngweithio gyda’r plentyn, ydi’r gwaith tŷ yn cael llai o sylw? Ydi’r rhiant yn gallu cyflawni tasgau o amgylch y tŷ?
Ydi’r plentyn wedi’i wisgo mewn dillad priodol? Ydi’r plentyn yn ddigon cynnes neu’n ddigon oer? Pa mor amyneddgar yw’r rhiant gyda’r plentyn? Ydi’r rhiant yn sensitif i anghenion y plentyn neu ydyn nhw’n ddiamynedd ac yn gweiddi ar y plentyn?
Ydi’r rhiant yn cadw at y drefn o ran pwy sy’n gwneud beth? Pan fydd y rhiant yn mynd allan heb y plentyn, ydi hyn wedi’i drefnu, neu ydyn nhw’n cerdded allan gan adael y plentyn yng ngofal y gofalwr heb gymryd fawr o sylw? Ydi’r rhiant yn paratoi poteli’r plentyn cyn mynd allan, neu ydyn nhw’n disgwyl i’r gofalwr maeth wneud hyn?
Sut mae’r rhiant yn cyfathrebu gyda’r gofalwr maeth? Ydi’r rhiant yn barod i ddysgu, neu ydyn nhw’n rhwystrol ac yn achosi gwrthdaro?
“Rydw i’n gwylio ydi’r rhiant yn ymateb i anghenion y plentyn; ydyn nhw’n cael eu bwydo a’u newid? Hefyd oes yna deimladau annwyl gyda’r babi, oes yna gariad?” Gofalwr Maeth
6. Ydy partneriaid yn saff?
Nid bob amser. Os bydd partneriaid yn peri risg i’r plentyn, ni fyddan nhw’n cael ei weld. Caiff cyfeiriad y gofalwr maeth ei gadw’n ddienw ac ni chaiff ei rannu gydag unrhyw un. Mae gweithwyr cymdeithasol yn glir iawn i rieni am y rheolau o ran diogelwch. Bydd rhieni’n llofnodi cytundeb pan fyddan nhw’n dod i aros am y tro cyntaf. Os bydd y rhiant yn datgelu cyfeiriad y gofalwr maeth i bartner a gaiff ei gyfrif fel risg, bydd y lleoliad maethu yn dod i ben yn syth.
“Os oes partner treisgar, ni fydd yn cael dod i’r tŷ. Dydw i erioed wedi cael achos lle daeth partner treisgar i’r tŷ. Caiff ei wneud yn glir i’r fam. Os oes partner treisgar a’u bod yn dod i wybod lle mae’r fam, mae hynny’n mynd i roi’r trefniant o aros yma mewn perygl” Gofalwr Maeth
7. Beth os bydd gen i bryderon am ddiogelwch y babi?
Bydd y gofalwyr maeth yn cofnodi gwybodaeth bob dydd am pa mor dda mae’r rhiant yn ymdopi, ac unrhyw feysydd sydd angen eu gwella. Mae’r rhiant yn ymwybodol o’r dechrau eu bod yn cael eu harsylwi. Cynhelir cyfarfodydd wythnosol gyda’r gofalwr maeth, y rhiant a gweithwyr cymdeithasol i weld sut mae pethau’n mynd a chaiff unrhyw arsylwadau eu rhannu.
Mae gofalwyr maeth yn cael cefnogaeth lawn gan eu gweithiwr cymdeithasol. Os bydd gofalwr maeth yn poeni am unrhyw beth, gall ffonio neu anfon e-bost unrhyw amser o’r dydd, waeth pa mor fach yw’r broblem.
Byddai’r gofalwr maeth yn rhoi gwybod i’r gweithiwr cymdeithasol neu’r tîm y tu allan i oriau yn syth am unrhyw bryderon. Yna byddai’r gofalwr maeth yn cael arweiniad priodol.
“Rydw i’n annog o hyd; mae’r babi angen hyn, mae’r babi angen llall. Mae cyfarfod bob wythnos gyda gweithwyr cymdeithasol, y gofalwr maeth a’r rhiant. Pryd bynnag fyddwn i’n pryderu am ddiogelwch y babi, byddwn i’n camu i mewn a ffonio’r gwasanaethau cymdeithasol.” Gofalwr Maeth
8. Am ba mor hir fyddan nhw’n aros?
Mae lleoliadau maeth i fam a’i phlentyn (neu rieni a phlentyn gyda’i gilydd) fel arfer yn lleoliad asesu 12 wythnos. Gellir gwneud cais i’r llys ymestyn y dyddiad os oes angen. Gallai hyn fod oherwydd bod angen rhagor o amser ar gyfer yr asesiad rhianta neu oherwydd bod angen cefnogaeth ychwanegol ar y rhiant.
“Weithiau mae angen mwy o amser ar y rhai iau, maen nhw’n derbyn gofal eu hunain, felly maen nhw wedi aros ychydig yn hirach” Gofalwr Maeth
9. Beth sy’n digwydd os aiff pethau o’u lle?
Mae bob amser yn drist i ni pan na fydd y babi’n aros gyda mam neu dad. Nid dyma’r canlyniad rydym am ei weld ar gyfer y rhiant na’r plentyn. Ein nod bob amser yw ceisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn gweld y fam yn mynd adref gyda’r babi. Ond weithiau mae diogelwch y babi mewn perygl. Weithiau bydd y rhiant yn dewis partner neu ffordd o fyw dros eu plentyn.
“Pan fydd pethau’n dechrau mynd o’u lle, efallai bydd y mamau’n dweud pethau. Byddan nhw’n dweud “wnaeth hi ddim dweud hynny wrtha i”. Maen nhw am roi’r bai ar rywun arall. Dyma lle mae eich cofnodion dyddiol chi’n hanfodol. Rydw i’n ysgrifennu popeth i lawr ac unrhyw ddadleuon gair am air” Gofalwr Maeth
10. Beth fydd yn digwydd pan fyddan nhw’n symud allan?
Pan fydd rhiant yn llwyddo i symud allan gyda’u babi, byddan nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol.,Mae’n bosibl y byddant nhw’n symud i lety byw'n annibynnol neu rywle lle gallan nhw barhau i gael cefnogaeth. Bydd y plentyn yn dal i fod â gweithiwr cymdeithasol nes bydd y rhiant yn gallu cadw eu plentyn yn saff heb unrhyw gefnogaeth ychwanegol. Fel arfer mae angen seibiant da ar y gofalwr maeth cyn i leoliad maeth arall gyrraedd.
“Pan fyddan nhw’n symud allan gyda’r babi, weithiau byddan nhw’n mynd yn ôl at deulu, ond nid yn aml iawn. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn dod o hyd i rywle iddynt fyw a chânt gefnogaeth gan aelodau eraill o staff yn y gwasanaethau cymdeithasol.
Y rhai fydd yn symud allan heb y babis, yw’r rhai sydd fwyaf fy angen i. Pan ddaw dydd Nadolig, Sul y Mamau a diwrnod pen-blwydd y babi, byddan nhw ar y ffôn. Os na fydd y babis yn mynd at aelod o’r teulu, byddan nhw’n cael eu mabwysiadu. Maen nhw’n ypset a bydda i’n cefnogi’r mamau drwy hynny.” Gofalwr Maeth
Mae cadw teuluoedd gyda’i gilydd yn rôl sy’n rhoi boddhad mawr
Mae dysgu sut i fod yn rhiant yn frawychus i unrhyw un; apwyntiadau gyda’r ymwelydd iechyd, trefn ddyddiol, hormonau a diffyg cwsg. Heb gefnogaeth gan deulu neu wybodaeth am sut beth yw rhianta da, mae’n anoddach fyth.
Mae gennym famau a thadau ifanc sy’n teimlo wedi eu llethu’n llwyr. Mae gofalwyr maeth yn cynnig lle diogel i riant gymryd eu camau cyntaf. Fel gofalwr maeth, gallwch rannu doethineb a chynnig cefnogaeth nes byddan nhw’n gallu ymdopi ar eu pen eu hunain.
Nid ydych chi ar eich pen eich hun, mae hyfforddiant arbennig a thîm cyfan i’ch cefnogi chi, y fam a’i babi.
Cadw teuluoedd gyda’i gilydd ac atal plant rhag mynd i’r system ofal yw’r rhan sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad. Cewch eu gwylio’n datblygu i fod y rhiant gorau y gallan nhw fod, a gweld eu teulu bach yn ffynnu.
Cysylltwch â ni