Cofnodwyd: Tuesday 7th September 2021
Mae dewis maethu yn benderfyniad mawr ac mae dewis pwy i faethu â nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Nid yw pob asiantaeth ac awdurdod lleol yr un fath.
Rydw i wedi gweithio yn y maes maethu ers 11 mlynedd a phe bawn i’n ystyried bod yn ofalwr maeth, pa gwestiynau fyddwn i’n eu gofyn – fel rhywun sy’n gwybod tipyn am faethu?!!
Y pethau pwysig i mi fyddai:
- A fyddaf yn cael llawer o blant (neu “leoliadau”) a fydd yn cyd-fynd â mi a fy nheulu?
- A fyddaf yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnaf?
Ble i ddechrau?
Datganiad o Ddiben
Bydd gan y rhan fwyaf o wasanaethau maethu “ddatganiad o ddiben”. Mae hwn i’w weld ambell waith ar eu gwefan neu gallwch ofyn i’w weld. Yn y bôn mae’n nodi’n union beth mae’r gwasanaeth maethu yn ei wneud, faint o bobl sy'n gweithio yno, pa fath o wasanaethau maethu y maent yn ei gynnig ac ati.
Dyma ychydig o enghreifftiau:
http://www.leicester.gov.uk/media/183507/statement-of-purpose-fostering-2017.pdf
http://www.newport.gov.uk/documents/Care-and-Support/Fostering-Statement-of-Purpose.pdf
Darllenwch y datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth maethu yr ydych yn ystyried ei ddefnyddio.
Arolygon
Mae gwasanaethau maethu yn cael eu harolygu yn rheolaidd, yn debyg iawn i ysgolion, er mwyn sicrhau fod popeth yn rhedeg fel y dylai. Gallwch ddarllen adroddiad arolwg diweddaraf unrhyw wasanaeth maethu yma:
Cymru : http://cssiw.org.uk/find-a-care-service/service-directory/10145?skip=1&lang=cy
Lloegr : https://reports.ofsted.gov.uk/inspection-reports/find-inspection-report
Yr Alban : http://www.careinspectorate.com/index.php/care-services
Rhestr o ddarparwyr cymeradwy
Os ydych yn ystyried defnyddio gwasanaeth maethu annibynnol, gwiriwch a ydynt ar y rhestr o ddarparwyr dewisedig eich ardal yn gyntaf. Rhain yw’r asiantaethau y bydd yr awdurdod lleol yn eu galw os nad oes ganddynt ofalwr maeth mewnol i ddiwallu anghenion plentyn. Er enghraifft: Fframwaith Maethu Cymru Gyfan 2015 gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4C’s).
Felly pa gwestiynau fyddwn i yn eu gofyn wrth ddewis maethu gydag awdurdod lleol neu asiantaeth annibynnol...
- Ble fydd fy ngweithiwr cymdeithasol yn gweithio?
- Sawl gofalwr maeth mae pob un yn eu cefnogi? A pha mor aml fyddan nhw’n ymweld â mi?
- A yw’r gweithwyr cymdeithasol maethu yn gweithio’n llawn amser, ydyn nhw’n staff parhaol neu’n staff asiantaeth?
- Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal? Yn lleol neu yn y pencadlys?
- Ble fydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn gweithio?
- Ble fydd cyfarfodydd am y plentyn yn cael eu cynnal?
- Faint o ofalwyr maeth eraill sy’n byw yn fy ardal?
- Faint o blant ydych chi wedi’u rhoi gyda gofalwyr maeth yn ystod y 12 mis diwethaf? Ac ym mha grwpiau oedran oedd y plant hynny?
- O ba ardal / awdurdod lleol oedden nhw’n dod?
- Faint o’ch gofalwyr maeth sydd heb blant maeth yn eu gofal ar hyn o bryd?
Erbyn y diwedd, dylech fod yn ymwybodol o’r cymwysterau a’r profiad sydd gan y tîm maethu a fydd yn eich cefnogi, pa blant y byddant yn gofyn i chi eu cymryd, pa mor brysur yw’r asiantaeth faethu ac i ble y bydd angen i chi deithio yn ôl ac ymlaen yn rheolaidd.
Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau... bydd y gwasanaeth maethu yn gofyn llawer o gwestiynau i chi cyn i chi fod yn ofalwr maeth. Bydd y rhan fwyaf o asiantaethau yn gallu rhoi’r wybodaeth hon i chi ac yn barod i wneud hynny. Os nad ydynt – ewch i rywle arall!
Er gwybodaeth... dyma’r atebion gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint
- Ble fydd fy ngweithiwr cymdeithasol yn gweithio?
- Sawl gofalwr maeth mae pob un yn eu cefnogi? A pha mor aml fyddan nhw’n ymweld â mi?
- 12 – 15. Byddwch yn cael o leiaf 8 ymweliad y flwyddyn gan eich goruchwylydd, mwy os oes angen cefnogaeth ychwanegol arnoch
- A yw’r gweithwyr cymdeithasol maethu yn gweithio’n llawn amser?
- Mae mwyafrif y tîm maethu yn aelodau llawn amser parhaol o staff. Mae gennym un gweithiwr cymdeithasol rhan-amser
- Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal? Yn lleol neu yn y pencadlys?
- Cynhelir ein hyfforddiant yn lleol ym Maes Glas ger Treffynnon
- Ble fydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn gweithio?
- Y Fflint, yn yr un swyddfa â’r tîm maethu
- Ble fydd cyfarfodydd am y plentyn yn cael eu cynnal?
- Yn swyddfa'r Fflint fel arfer, neu yn ysgol y plentyn neu gartref y gofalwr
- Faint o ofalwyr maeth eraill sy’n byw yn fy ardal?
- Mae 124 o ofalwyr maeth yn maethu yn lleol gyda Chyngor Sir y Fflint a gallwch ddod i gysylltiad â llawer ohonyn nhw mewn boreau coffi a digwyddiadau.
- Faint o blant ydych chi wedi’u rhoi gyda gofalwyr maeth yn ystod y 12 mis diwethaf? Ac ym mha grwpiau oedran oedd y plant hynny?
- Y llynedd cawsom geisiadau am leoliadau maethu i 108 o blant, sef babanod a phlant dros 10 oed yn bennaf.
- O ba ardal / awdurdod lleol oedden nhw’n dod?
- Mae’r plant fel arfer yn dod o Sir y Fflint
- Faint o’ch gofalwyr maeth sydd heb blant maeth ar hyn o bryd?
- Mae 97% o'n gofalwyr maeth yn llawn gyda phlant sy’n derbyn gofal maeth (Ebrill 2017).
Datganiad o Ddiben
(file)
Adroddiadau Arolygu
http://cssiw.org.uk/docs/cssiw/report/inspection_reports/10145_5_e.pdf
Rhestr o ddarparwyr dewisedig
Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am bob plentyn a bydd yn chwilio am ofalwr maeth sy’n gallu diwallu anghenion y plentyn orau, gan ddechrau gyda'u gofalwyr eu hunain. Pan nad oes modd i awdurdodau lleol roi plant yng ngofal eu gofalwyr eu hunain, byddant yn mynd at asiantaethau eraill. Bydd y plentyn yn dal i gael gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol.
I ddechrau bydd Sir y Fflint yn ystyried asiantaethau yng Nghymru sydd ar restr o ddarparwyr dewisedig 4C’s. Ambell waith, er budd y plentyn, byddwn yn mynd yn bellach i ffwrdd i chwilio.