Cofnodwyd: Friday 22nd October 2021
Ym mis Mawrth 2016, roedd 5,037 o blant yng Nghymru yn byw yng ngofal yr awdurdodau lleol. Mae’r nifer wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn. Roedd 4,264 o’r plant hynny yn byw gyda theuluoedd maeth, ac roedd dau o’r rheiny yn byw efo fi.
Mae fy nheulu yn darparu lleoliadau maethu hir dymor i ddau o blant sy'n dioddef o gyflwr iechyd sy'n cynyddu'r peryg o drawiadau (seizures), anabledd deallusol a phroblemau ymddygiad. Mae hyn yn un o’r rhesymau pam na all eu teulu eu hunain ofalu amdanynt, a dyna pam mae arnynt ein hangen ni.
Rydym wedi darparu lleoliadau i 7 o blant a 2 leoliad seibiant i blant sydd ag anableddau.
Pan gyrhaeddodd y ddau blentyn yr ydym yn eu maethu, roedd y ferch yn blentyn bach ond o ran datblygiad roedd fwy fel baban newydd anedig. Nid oedd yn gallu symud ar ei phen ei hun gan ei bod wedi ei gadael, wedi ei strapio i mewn i sedd baban. Roedd ei phen yn fflat ar un ochr gan ei bod wedi ei gadael a heb gael ei symud. Roedd ganddi lygaid tywyll mawr ac amrannau hir. Roedd wrth ei bodd â sylw.
Roedd ei brawd, oedd ond ychydig yn hŷn, ond newydd ddechrau ceisio cerdded a dim ond synau oedd yn ei wneud, nid geiriau. Roedd yn ymddangos yn wag a di fynegiant. Doedd dim bywyd y tu ôl i’w lygaid. Dim ond llaeth fyddai’n ei fwyta ac roedd ganddo ffobia o fwyd.
Doedd yr un ohonynt yn gwybod sut i chwarae, sut i gysylltu â phobl, a byddent yn gwthio teganau i ffwrdd fel bod arnynt eu hofn. I ddechrau roeddem yn meddwl y byddai’r her hon yn ormod.
Fe wnaethon ni gymryd camau bach, rhoi llwyth o gariad ac anogaeth iddynt, a gyda help teulu, ffrindiau a gweithwyr cymdeithasol, rydym bellach yn edrych ar ôl dau blentyn anhygoel. Bellach maent wrth eu boddau â bwyd a theganau ac yn cymryd pob cyfle sy'n cael ei roi iddynt ac yn gwneud y mwyaf ohono. Rydw i’n falch iawn o fod yn ofalwr maeth.
Rydw i wedi ennill profiad oes o sut beth yw helpu eraill drwy gyfnodau anodd. Rydw i hefyd wedi dysgu sut i gadw’n dawel mewn sefyllfaoedd llawn straen. Gellir defnyddio’r gwersi a ddysgwyd drwy faethu mewn sawl sefyllfa wahanol mewn bywyd.
Ar wahân i’r holl bwyntiau positif, mae yna bwyntiau negatif. Mae’r boen emosiynol o wahanu oddi wrth y plentyn yn erchyll. Maent yn dod yn rhan o’r teulu. Byddwch yn dysgu sut i wahanu oddi wrth blant a chawsom lawer iawn o gefnogaeth. Rhaid i chi rannu pethau, eich rhieni, eich teganau, mae fy mrwshys colur yn aml yn mynd ar goll. Mae rhai dyddiau pan na fyddwch yn ffrindiau, er enghraifft pan fyddant yn eich cnoi, neu pan fyddant yn crio yng nghanol y nos pan fyddwch chi eisiau cysgu.
Rydw i mor falch o fod yn ofalwr maeth, ac ni fyddwn yn newid hynny. Mae’n anodd egluro’r cysylltiad y gallwch ei gael gyda’r plant, mae mor eithriadol. Mae eu gwylio’n tyfu, yn newid, yn datblygu, a bod yn rhan o’u cyrhaeddiad yn gyfle na fyddwn am ei fethu. Does dim yn well na dod adre a gweld plentyn hapus sydd am roi cwtsh i chi, pan fyddwch wedi cael diwrnod gwael.
Rwy’n credu y dylai pawb drio maethu. Os ydych yn benderfynol, a bod gennych synnwyr digrifwch, ystafell sbâr a'ch bod yn hoffi her, rhowch gynnig arni. Mae’n cymryd llawer o bobl egnïol i helpu plant sydd wedi profi camdriniaeth neu esgeulustod.
Mae maethu yn newid cenedlaethau ac mae ar y plant eich angen chi.