Cofnodwyd: Tuesday 26th April 2022
Mae’n fis cenedlaethol anifeiliaid anwes, felly er mwyn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r manteision o ran sut y gall anifail anwes helpu plentyn maeth i setlo mewn cartref newydd, fe wnaethom gyfweld un o’n gofalwyr maeth, Caz Bateman a’i chi bach Cocker Spaniel 8 oed, Lexi.
Mae Caz a’i gŵr Ian wedi bod yn maethu plant lleol ers mis Mai 2021 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi wedi maethu oddeutu 12 o blant yn Sir y Fflint. Mae Caz yn cynnig gofal brys a seibiant i blant, sydd fel arfer yn golygu mai ond am gyfnod byr mae’r plant yn aros, gall hyn amrywio rhwng noson a phythefnos.
‘Pan mae’r plant yn cyrraedd gyda’r gweithwyr cymdeithasol, mae ein ci, Lexi, yn llwyddo i dynnu sylw’r plant oddi ar yr hyn sy’n mynd ymlaen o’u cwmpas, cyn gynted ag y mae’r plant yn gweld Lexi, maent yn canolbwyntio’r rhan fwyaf o’u sylw arni ac mae hi’n gi cyfeillgar ac yn caru plant’ eglurodd Caz.
‘Mae mor braf gweld y plant yn ymlacio a gweld y manteision y gall Lexi eu cynnig i bob plentyn, fel arfer, erbyn i’r cyflwyniadau a’r sgyrsiau fod drosodd, mae Lexi yn gorwedd wrth ymyl y plentyn.
Aeth Caz ymlaen i ddweud wrthym fod Lexi hefyd o gymorth i’r plant rannu storïau am yr anifeiliaid anwes sydd ganddynt yn eu hunain gartref, a gan nad ydynt ddim yn eu cwmni bellach, maent yn hoff o gael gofalu am Lexi, gan ei bwydo, gafael ar ei thennyn a thaflu’r bêl wrth fynd am dro.
‘Roedd gan y plentyn diwethaf a ddaeth yma i aros arferiad gyda Lexi, bob nos cyn mynd i’r gwely, byddai’n gofyn a fyddai’n cael rhoi gwobr ddyddiol Lexi iddi, byddai’n gwneud i Lexi aros ac eistedd wrth iddi gyffroi, ac roedd hyn yn rhywbeth yr oedd yn gofyn am gael gwneud ei hun, a oedd yn hyfryd, gan ei fod yn cadarnhau ei fod wedi ymlacio’n aros yma, fe wnaeth hyd yn oed ofyn am bawen Lexi, a wnaeth i ni chwerthin, gan ei fod yn credu mai dyma’r tro cyntaf i Lexi ac roedd yn teimlo balchder ei fod o bosib wedi dysgu tric newydd iddi’
Gofynnom i Caz a oedd yna blant wedi aros gyda hi nad oedd ag anifeiliaid anwes gartref a sut wnaethon nhw ymateb i Lexi.
‘Roedd un ferch fach a oedd yn eithaf nerfus o Lexi i ddechrau, gan ei bod hi wedi cyffroi’n lân, ond unwaith iddi ddechrau ymlacio, roedd yn sylwi fod Lexi’n gyfeillgar ac ond wedi cyffroi am fod ymwelydd newydd yn y tŷ. Wnaiff tîm maethu Cymru ond lleoli plant sy’n hapus i fod yng nghwmni Lexi a phe bai unrhyw broblem, byddem yn gwneud trefniadau amgen i Lexi fynd at ei darparwr gofal dydd i gŵn arferol ’
‘Mae’r plant sy’n dod i aros wrth eu boddau yng nghwmni Lexi, mae hi’n gwneud iddynt chwerthin wrth neidio o gwmpas ar ei dwy goes ôl ac yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, rydym yn gosod cwrs ystwythder yn yr ardd i Lexi ei ddefnyddio, ac mae’n fodlon ei wneud am wobr’
‘Mae Lexi’n cynnig cysur i blant, ceir yr argraff eu bod nhw braidd yn drist yn cyrraedd am y tro cyntaf ac mae hi’n symud ei hun yn araf tuag atynt, nes dod yn ffrind gorau iddynt ac mae’n eu dilyn o gwmpas y tŷ. Rydym wrth ein boddau’n gwylio Lexi’n swatio wrth ymyl y plant ar y soffa gyda’r nos, mae mor galonogol eu gweld nhw’n hapus’.
Hoffai Tîm Maethu Sir y Fflint ddiolch i Caz a Lexi, wrth gwrs, am roi o’u hamser i rannu’r storïau hyfryd hyn gyda ni.