Cofnodwyd: Sunday 12th September 2021
Ysgrifennwyd gan ofalwr maeth o Sir y Fflint sydd newydd ei gymeradwyo
I ddechrau…Cewch ffurflen holi ac ateb sy’n gofyn cwestiynau amdanoch chi ond, fy mhroblem i oedd fod y blychau’n rhy fach. Er nad ydym fel arfer yn siarad llawer amdanom ein hunain, agorodd hyn dun o gynrhon, ond dim ond dechrau taith hirfaith i lawr stryd atgofion yw hon sy’n dod â theimladau o hapusrwydd, tristwch ac, ar adegau, rhwystredigaeth.
At ddiben y blog hwn rwy’n mynd i’w alw hwn yn ddatganiad Hunangofiannol.
Gall y datganiad hunangofiannol fod yn fygythiol, ond yn y bôn stori’ch bywyd ydy o. Efallai y bydd gofyn i chi ddisgrifio pwy â’ch magodd a’u harddull o fagu plant a’r ffordd y mae hyn wedi effeithio arnoch yn gymdeithasol ac yn bersonol, sawl brawd a chwaer sydd gennych, ac ym mha drefn y cawsoch eich geni, a pha rwydwaith cymorth sydd gennych o’ch hamgylch. Gwelais fod ein datganiad yn ateb nifer o gwestiynau i ni fel cwpwl yn ogystal ag i’r asesiad.
Pethau fel, oeddech chi’n agos at eich rhieni a’ch brodyr a’ch chwiorydd pan oeddech yn blentyn? Ydych chi’n agos nawr? Faint o gysylltiad sydd gennych â nhw? Nodwch rai o’ch llwyddiannau neu’ch methiannau? Pa lefel addysgol ydych chi wedi’i chyrraedd? Ydych chi’n bwriadu mynd â’ch addysg ymhellach? Ydych chi’n hapus â’ch cyraeddiadau addysgol? Beth yw’ch barn am addysg i blant? Beth yw’ch statws cyflogaeth? Eich cefndir o ran swyddi? Oes gennych chi gynlluniau i newid swydd? Ydych chi’n mwynhau’ch swydd bresennol? Pa brofiadau sydd gennych â phlant, i mi llawer, ond i fy ngŵr, bron ddim.
Os ydych yn briod, (fel ni) bydd cwestiynau’n cael eu gofyn am eich priodas. Efallai y bydd y rhain yn ymwneud â’r ffordd y gwnaethoch gyfarfod, am faint y buoch yn canlyn cyn priodi, ers faint ydych chi’n briod, beth â’ch tynodd at eich gilydd, beth yw cryfderau a gwendidau’ch cymar, a’r materion yr ydych yn cytuno ac yn anghytuno arnynt yn eich priodas. Efallai y bydd eraill yn gofyn i chi sut ydych yn gwneud penderfynaidau, datrys problemau, setlo dadleuon, cyfathrebu, mynegi teimladau, a dangos anwyldeb. Os oeddech chi wedi priodi o’r blaen, bydd cwestiynau am y briodas honno. Fe wnaethom ddisgrifio ein patrymau arferol, fel ein diwrnod neu benwythnos arferol, ein diddordebau a’n gweithgareddau hamdden a gan fod gennym blant hŷn, sut ydym yn eu hintegreiddio yn hyn oll. Bydd cwestiynau ynglŷn â’ch profiadau gyda phlant, plant perthnasau, cymdogion, gwaith gwirfoddol, gwarchod plant, addysgu, neu hyfforddi. Efallai y cewch gwestiynau “beth os” ynglŷn â disgyblu neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â rhianta.
Mae’n debyg y cewch eich holi am eich cymdogaeth: a ble y cawsoch eich magu. Pa fath o gyfeillgarwch sydd/oedd gennych chi â’ch cymdogion? Pa fath o bobl sy’n byw / a oedd yn byw gerllaw? A oedd unrhyw amrywiaeth hiliol/ethnig/diwylliannol. A yw’n ardal ddiogel? Pam wnaethoch chi ddewis y gymdogaeth hon? Ydych chi mewn lleoliad cyfleus o ran adnoddau cymunedol megis cyfleusterau meddygol, cyfleusterau hamdden, ardaloedd siopa a chyfleusterau crefyddol? A gofynnir i chi am eich crefydd, eich lefel o arferion crefyddol ac a fyddech yn barod i gefnogi unrhyw fath o fagwraeth grefyddol y gofynnir i chi gynorthwyo’ch plentyn â hi. Cofiwch na fydd dweud ‘na’ yn cael unrhyw effaith negyddol arnoch, mae’n dangos i’r tîm pwy i beidio eu rhoi yn eich gofal.
Mae adran hefyd ar faterion penodol sy’n ymwneud â maethu, gan gynnwys cwestiynau ynglŷn â pham yr ydych am faethu, pa fath o blentyn y teimlwch y gallwch roi’r gofal gorau iddo/iddi a pham. Hefyd sut y byddwch yn dweud wrth y plentyn pam ei fod/bod yn derbyn gofal. Pa farn sydd gennych am rieni gwaed sy’n gyfrifol am roi eu plentyn mewn gofal. Sut y byddwch yn ymdrin â chwestiynau’ch teulu a’ch ffrindiau am faethu, a p’un a fyddwch yn gallu creu cwlwm â phlentyn nad yw’n perthyn yn enetig i chi gan y bydd rhaid i chi adael iddynt fod ynghlwm wrthych chi. Cefais fy nghynghori i ymchwilio i’r ddamcaniaeth ymlyniad ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny.
Efallai na fyddwch yn gwybod yr holl atebion yn syth, doedden ni’n bendant ddim, ond mewn gwirionedd roedd yn broses wych o ddysgu pethau am ein gilydd nad oeddem wedi’u trafod o’r blaen a cherdded i lawr stryd atgofion! Gwnaeth ein hastudiaeth cartref i ni feddwl o ddifrif am y materion hyn a buom yn cwestiynu ein gilydd ac yn siarad, a siarad a siarad mwy eto. Un peth y gallaf fod yn sicr ohono yw, y bydd y gweithiwr cymdeithasol sy’n eich asesu yn eich arwain a’ch cynorthwyo drwy gydol y broses gyfan ac yn cynnig cyngor i chi am ddisgrifio’r testunau hyn. Ni fyddant yn eich barnu, ond byddant yn cynnig cyngor yn ôl yr angen.
Roedd gofyn i’n merched hŷn (24 a 21 oed) gael eu cyfweld yn unigol ar gyfer rhan o’r asesiad a dywedodd y ddwy fod ein GC wedi gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus ac heb roi unrhyw bwysau arnynt. Dywedais wrth y ddwy o flaen llaw i fod yn gwbl onest.
Y rhan anoddaf i ni oedd ein “cyn bartneriaid”. Roedd yn gas gennyf feddwl am y rhan honno ond cawsom ein sicrhau a dywedwyd wrthym pam fod gofyn iddynt wneud hynny a’u bod wedi arfer a’u bod yn gallu darllen pobl yn dda iawn. Gofynnwyd pethau i mi mewn ffordd nad oedd yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy holi’n dwll. Yn gyntaf buom yn trafod ychydig am sut mae ein perthynas â’r cyn bartner nawr, sy’n iawn yn ffodus, yna gofynnodd gwestiynau i mi am faint yr oeddem gyda’n gilydd a pham y chwalodd y berthynas. Yna anfonodd lythyr at fy nghyn bartner yn gofyn am gyfweliad. Credaf os ydych yn dweud wrth eich gweithiwr cymdeithasol eich bod yn dod ymlaen yn dda iawn â’ch cyn bartner a’i fod o’n dweud rhywbeth gwahanol, gallai hynny achosi pryder ond, os ydych yn onest ni fydd yn gymaint o sioc, wedi’r cyfan maent wedi arfer ymdrin â phartneriaid anfodlon. Yn y diwedd roedd popeth yn iawn oni bai am deimlo braidd yn rhwystredig ar adegau.
datganiad gan fy nghyn ŵr
“I ddechrau fy mhlant ddywedodd wrthyf fod fy nghyn wraig am fod yn ofalwr maeth ac y byddai gofyn i mi gael fy nghyfweld fel nhw. Gan nad oeddwn wedi gwneud unrhyw beth felly o’r blaen roeddwn yn ansicr iawn beth oedd disgwyl i mi ei wneud. Fodd bynnag, yn y pen draw cefais lythyr gan Wasanaethau Maethu Sir y Fflint yn gofyn am gyfweliad, ffoniais y rhif a ddarparwyd a trefnwyd dyddiad ac amser. Cyrhaeddodd y Gweithiwr Cymdeithasol a dechreuais deimlo’n gyfforddus ar unwaith, roedd yn fwy fel sgwrs ac mae cyfweliad yn air rhy gryf i’w ddisgrifio. Beth bynnag buom yn sgwrsio am fy mherthynas ac a oeddwn yn meddwl ei bod yn addas i fod yn ofalwr maeth. Atebais yn onest a dywedais fy mod yn meddwl ei bod yn berffaith ar gyfer y rôl yn arbennig gan fy mod wedi ei gweld yn magu ein plant â fy llygaid fy hun. Yn ffodus i mi rydym i gyd yn byw yn lleol ac mae gennym berthynas dda yn bennaf oherwydd fod gennym blant gyda’n gilydd. Parodd y cyfweliad ddim mwy na hanner awr a gwn o’r cyfweliad hwnnw ac o siarad â’m merched y bydd angen i mi eu cynorthwyo pan fydd y plant y byddant yn eu maethu yn symud ymlaen”. Yn gywir
I gloi…
Rydych ar fin dechrau taith emosiynol iawn ond cofiwch wisgo’ch gwregys diogelwch a mwynhau’r siwrnai. Byddwch yn clywed llawer o straeon arswyd yn y cwrs sgiliau i faethu ac yn wynebu llawer mwy yn eich asesiad ond, i’ch hysbysu rydym wedi cael ein plentyn cyntaf a mae ei wên yn gwneud popeth yn werth chweil, wedi’r cyfan sut allwn ni amddiffyn y rhai bach hyn os na allwn wynebu ein gwendidau ein hunain?
pob lwc a chofiwch eich bod hanner ffordd yno