Cofnodwyd: Thursday 21st October 2021
Gwych, rydych chi am fod yn ofalwr maeth, rhowch eich llofnod yma.
Rhy gyflym?
Ydy, yn ein barn ni. Ond faint mae’n ei gymryd i fod yn ofalwr maeth a pham ddylai hynny gymryd 6 mis er mwyn gwneud pethau’n iawn?
Mae maethu yn llawer mwy na dod o hyd i wely diogel a tho uwch ben plant. Mae angen gwneud pethau’n iawn ac mae’n ddyletswydd arnom er mwyn y plant, i wneud ein gorau a pheidio â rhuthro pethau.
Dyma 17 rheswm pam mae’r asesiad maethu yn cymryd 6 mis.
1. Rhoi’r ffeithiau am faethu i chi.
2. Creu perthynas.
3. Pam ydych chi eisiau maethu?
4. Y gwaith gwirio a chael geirda.
5. Hyfforddiant Paratoi Sgiliau Maethu
6. Pa bryd mae’r cloc yn cychwyn tician?
7. “Dydy rhai newydd ddim yn gwybod beth i’w holi”
8. Eich argaeledd.
9. Eich barn, eich agwedd a’r hyn rydych yn gyfforddus i’w wneud.
10. Profiad emosiynol.
11. Pa mor sefydlog yw eich bywyd teuluol?
12. Wedi newid eich meddwl, eisiau seibiant?
13. Y teulu cyfan.
14. Eich cyfateb chi gyda phlentyn y gallwch ei helpu.
15. Eich paratoi ar gyfer pob posibilrwydd.
16. Nid busnes ydym ni, ond gofal.
17. Mae angen bod yn siŵr.
Rhoi’r ffeithiau i chi
Mae cryn dipyn o wybodaeth anghywir a chamsyniadau am faethu. Mae syniad nifer o bobl am faethu yn seiliedig ar raglenni teledu, operâu sebon, ffilmiau, penawdau papurau newydd neu rybuddion gan deulu neu ffrindiau. Mae rhan gyntaf ein sgwrs yn ymwneud â rhannu gwybodaeth a rhoi’r ffeithiau cywir i chi am faethu.
Creu perthynas
Rydych chi’n mynd i fod yn maethu gyda ni (gobeithio) am y 5, 10, 20+ mlynedd nesaf, felly mae’n dda dod i adnabod ein gilydd. Dod i arfer gyda’r iaith, y termau, pwy yw pwy a sut mae popeth yn gweithio.
A pha ffordd well na chael eich hyfforddi a’ch asesu gan y rhai y byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda nhw. Rydym ni’n gwybod sut rydym ni’n gwneud pethau, sut mae ein cefnogaeth yn gweithio ac rydym yn gwybod sut mae pethau’n gweithio yma, gyda gwasanaethau lleol ac ysgolion lleol. Rydym ni’n bobl o gig a gwaed, sy’n nabod yr ardal leol, oherwydd ein bod ni’n byw yma hefyd.
Rydym ni hefyd yn adnabod y plant y gallech fod yn gofalu amdanynt; eu straeon a’u hanghenion unigryw. Wrth i ni ddod i’ch adnabod chi, efallai y bydd gennym blentyn mewn golwg, y gallech chi ei helpu.
“Mae dod i adnabod pobl yn bwysig,” Gofalwr Maeth.
Pam ydych chi eisiau maethu? Beth sy'n eich ysgogi?
Chwilio am swydd, incwm? Eisiau cychwyn teulu eich hun? Chwilio am gwmni mewn tŷ tawel?
Neu oes gennych chi rywbeth i’w gynnig i blentyn; amser, cariad a sylw. Ydy eich ysgogiad i faethu yn ddigon i’ch cynnal drwy ddyddiau anodd?
Ai maethu yw’r llwybr cywir ar eich cyfer chi a’ch teulu?
“Mae 6 mis yn rhoi mwy o amser i dreulio’r holl wybodaeth a gwneud yn siŵr mai dyma’r llwybr cywir,” Gofalwr Maeth.
Y gwaith gwirio a chael geirda
Mae dod yn ofalwr maeth yn llawer mwyn na llenwi bylchau. Er ei bod yn bwysig gwirio cofnodion troseddol, iechyd, geirdaon, hanes cyfeiriadau blaenorol ac ymwneud a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r gwirio yma’n golygu cysylltu gyda gwasanaethau eraill ac aros am eu hymateb. Byddwn yn gofyn am farn pobl sy’n eich adnabod chi’n dda, o wahanol safbwyntiau; eich teulu, ffrindiau, bos, cyn-gariad, nes y cawn ni ddarlun llawn.
Hyfforddiant Paratoi Sgiliau Maethu
Mae ein cwrs hyfforddi i baratoi ar gyfer maethu yn cyflwyno 6 phwnc pwysig ynglŷn â gofalu am ein plant.
- Derbyn plant am bwy ydyn nhw, sylweddoli fod pob plentyn yn wahanol ac y gallan nhw fod ar wahanol gamau o’u datblygiad i’w cyfoedion. Beth mae plant wir ei angen?
- Mae gan bawb hunaniaeth, pethau sy’n bwysig iddyn nhw ar hyn sy’n eich gwneud yn “chi”. Allwch chi dderbyn plentyn i’ch teulu sy’n wahanol i chi, ac allwch chi bontio’r gwahaniaeth? Meddyliwch sut mae plentyn yn teimlo mewn gofal maeth.
- Pan rydych chi’n gofalu am blentyn, rydych yn rhan o dîm mawr sy’n rhan o fywyd y plentyn hwnnw. O rieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, gweithiwr cymdeithasol, athrawon, gweithiwr gofal iechyd. Allwch chi helpu plentyn i gadw cysylltiad gyda’i deulu? Allwch chi gyfathrebu gwybodaeth bwysig a chadw gwybodaeth yn gyfrinachol?
- Allwch chi helpu plentyn ofnus deimlo’n ddiogel? Nid yw hyn yn mynd i ddigwydd dros nos. Byddwn yn eich dysgu am y syniadau sut i wneud i blentyn deimlo ei fod yn perthyn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod beth sy’n eich gwylltio chi ac adnabod yr hyn sy’n achosi hynny. Rydym ni’n cyflwyno enghreifftiau o ambell ymddygiad allai fod yn gyffredin yn y plant sydd yn ein gofal. Rydym yn trafod sut i gynnig rheolau, ffiniau a chanlyniadau i blentyn.
- Pan fyddwch chi’n gofalu am blant pobl eraill, mae rheolau ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud, o’i gymharu â’ch plant eich hun. Rydym yn trafod sut y gallwch gyfuno hynny i’ch bywyd teuluol. Rydym yn trafod y perygl y gall plentyn ddweud eich bod wedi gwneud rhywbeth a pham bod angen gwrando ar blant, gan sicrhau fod eu profiad o ofal yn dda.
- Mae gollwng gafael ar blant yn un o heriau mawr maethu a’r rheswm fod nifer o bobl yn ailfeddwl. Rydym yn trafod pam fyddai plentyn yn symud ymlaen a phwysigrwydd gwneud i’r symud fod mor ddidrafferth a chadarnhaol â phosibl i’r plant.
Ydych chi eisoes yn gweithio gyda phlant? Felly efallai eich bod eisoes yn deall y materion yma drwy eich gwaith fel athro/athrawes neu weithiwr cymdeithasol, gwych! Yna mae angen i ni drafod y gwahaniaeth rhwng gweithio 9-5 a gwneud hyn yn eich cartref.
“Dwi’n meddwl ei fod yn dibynnu ar faint mae rhywun yn ei wybod yn barod am faethu,” Gofalwr Maeth.
Pa bryd mae’r cloc 6 mis yn cychwyn tician?
Ar ôl i ni gael ein sgwrs gyntaf, gwirio eich bod wedi deall y meini prawf sylfaenol (h.y. Ystafell sbâr ayyb) a'n bod ni wedi eich hyfforddi chi a gorffen y gwirio sylfaenol. Dyna pryd y byddwn yn derbyn eich cais ac yn cychwyn eich ‘asesiad’. Os ydych eisiau rhoi’r gorau i’r broses yn y fan yma, iawn. Byddwn fel arfer yn nodi pa mor barod ydych chi yn ystod ein sgyrsiau a’n hyfforddiant cychwynnol.
“Mae’n newid bywyd ac mae angen ei ystyried yn ofalus,” Gofalwr Maeth.
Gwybod beth i’w ofyn
Efallai fod maethu a gofal cymdeithasol yn bwnc newydd o’i gymharu â phopeth yr ydych wedi ei wneud yn eich bywyd a’i gwaith o’r blaen. Mae’r asesiad maethu 6 mis yn rhoi cyfle i chi feddwl am gwestiynau rydych am eu holi i’ch asesydd, wrth i chi fynd drwyddo, na fyddai wedi dod i’r meddwl ar y cychwyn.
“Dydy rhai newydd ddim yn gwybod beth i’w ofyn cyn cymeradwyaeth!” Gofalwr Maeth
Eich argaeledd
Byddwn yn gobeithio cynnal 6-10 apwyntiad gyda chi i gwblhau’r asesiad maethu. Mae’r rhain yn o leiaf ychydig oriau yr un, yn ddelfrydol yn fore neu brynhawn. Gallant fod yn apwyntiadau wythnosol. Mae hyn yn rhoi amser i chi rhwng pob apwyntiad i feddwl am yr hyn a drafodwyd. Mae hynny’n golygu gwneud amser i’r apwyntiadau yma yng nghanol prysurdeb bywyd, gwyliau, teimlo’n sâl (nid dim ond chi ond ein asesydd hefyd), ac rydym yn dda am wneud hynny, ond gall fod yn broses hirach o’r herwydd.
Eich barn, agwedd a’r hyn rydych yn gyfforddus i’w wneud?
Beth sy’n gwneud eich teulu’n unigryw? Beth yw eich credoau, arferion a phrofiadau?
Beth os...
Sut fyddech chi’n teimlo.....
Sut fyddech chi’n ymdopi....
Byddwn yn cael syniad da o beth allwch chi ymdopi ag ef a beth fydd yn ormod. Beth wyddoch chi, a beth ydych chi am ei wybod.
“Bydd y broses asesu yn adnabod y meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach,” Gweithiwr Cymdeithasol.
Profiad emosiynol
Weithiau, disgrifir yr asesiad fe ‘therapi am ddim’. Sut mae profiadau eich plentyndod a’ch bywyd wedi eich siapio fel unigolyn? Pa fath o berson ydych chi? Pa fath o riant fyddwch chi?
Mae’r asesiad yn un trylwyr. Rydym yn holi am eich plentyndod, digwyddiadau a phobl bwysig yn eich bywyd – y rhai rydych wedi eu caru a'u colli. Pynciau emosiynol iawn. Mae myfyrio yn bwysig i ofalwyr maeth, yn enwedig am eich plentyndod eich hun. Gall hyn gymryd amser neu godi atgofion.
“Mae’n rhoi amser i fyfyrio ar eu rhinweddau eu hunain ac yn rhoi amser iddyn nhw drafod a myfyrio ar yr wybodaeth a gant o ymweliadau asesiadau er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn addas iddyn nhw,” Gweithiwr Cymdeithasol.
Pa mor sefydlog yw eich bywyd teuluol?
Weithiau bydd bywyd yn llawn digwyddiadau annisgwyl, fe wyddom. Ond os yw bywyd yn eithaf sefydlog ar y cyfan, bron yn ddiflas, yna rydym yn gwybod y bydd eich bywyd yn ddigon sefydlog i ddod â her newydd iddo, her fel maethu.
Mae angen i ni fod yn eithaf sicr na fydd newid mawr yn eich bywyd (fel beichiogrwydd, mynd yn feth-dalwr....) sy’n golygu y byddai’n rhaid i blentyn maeth orfod symud i gartref arall. Dros y 6 mis, os nad oes newid mawr yn eich bywyd a’ch bod yn dal wedi eich ysgogi i faethu, mae hynny’n dangos yn eithaf da ac yn dystiolaeth eich bod wedi ymrwymo i wneud hyn.
“Mae’n dangos ymrwymiad gan y gofalwyr a’r awdurdod – buddsoddi amser er mwyn cael popeth yn iawn ac yn fanwl gywir. Trafod maethu am 6-9 mis er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw o ddifrif,” Gweithiwr Cymdeithasol.
Beth os fydda i angen seibiant? Neu yn newid fy meddwl.
Dychmygwch pe baem ni’n eich rhuthro i wneud y gwaith hwn, y plentyn yn cyrraedd ac yna...rydych yn newid eich meddwl. Beth yw’r peth gwaethaf allai ddigwydd? Achosi mwy o niwed o bosibl i’r plentyn, sydd eisoes wedi dioddef colled a chael ei wrthod. Dydym ni ddim eisiau hynny.
Rydym yn deall pan fydd pobl angen seibiant. Er fod amser yn mynd, gallwn fod yn hyblyg. Pan fyddwch chi’n gofyn am seibiant yn eich asesiad mae hynny’n iawn. Gallwch ail gydio ynddi pan fyddwch yn barod.
“Rydw i’n meddwl fod angen amser i feddwl am bopeth a pheidio â rhuthro i rywbeth na fydd yn addas efallai,” Gofalwr Maeth.
Y teulu cyfan
Ydy pawb yn awyddus i faethu, neu yn cytuno gyda’r syniad ddim ond er mwyn eich plesio chi? Drwy siarad gyda’ch plant eich hun neu aelodau eraill o’r teulu ar wahanol adegau drwy’r asesiad 6 mis, byddwch yn sicrhau y bydd pawb yn croesawu plentyn i’ch teulu.
Rydym hefyd yn paratoi pawb yn y teulu ar gyfer adegau mwy anodd.
“Mae’n bwysig ystyried yr effaith hefyd a’u disgwyliadau nhw,” Gweithiwr Cymdeithasol.
Eich cyfateb chi gyda phlentyn y gallwch ei helpu
Gall gymryd amser i ddarganfod pa fath o faethu fyddai’n gweddu i'ch teulu chi orau. Rydym am i’ch dyfodol fel maethwyr fod yn llwyddiant, felly mae angen amser a gofal i gydweddu plentyn addas gyda chi a’ch teulu. Rydym yn gwneud penderfyniadau gofalus am bwy ddylai faethu pob plentyn, gan roi sylw i’w buddiannau nhw. Bydd cydweddu’n well yn creu lleoliad mwy cynaliadwy a hapus ar gyfer y plentyn, i chi ac i’ch teulu. Gwell dyfodol i bawb. Mae’r wybodaeth a’r berthynas rydym ni’n ei chasglu yn yr asesiadau yn ein helpu ni i gael y cyfatebiad gorau.
Nid busnes ydym ni, ond gofal
Nid yw gweithwyr cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yn cael eu talu ar gomisiwn. Dydym ni ddim yn atebol i randdeiliaid na thargedau gwerthu. Nid busnes ydym ni. Rydym yn creu dyfodol, nid elw.
Mae ein tîm yn canolbwyntio'n cyfan gwbl ar weithio gyda gofalwyr maeth i greu gwell dyfodol i blant lleol; dyna rydym ni wedi ei hyfforddi i'w wneud ac yn anelu i'w gyflawni. Rydym ni’n malio am y plant rydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw, a'r gofalwyr maeth sy'n gofalu amdanyn nhw. Golyga hynny gymryd amser, i wneud pethau’n iawn.
Eich paratoi ar gyfer pob posibilrwydd
Os byddwn ni’n rhuthro’r asesiad, gallech chi ddod ar draws profiadau wrth faethu nad oeddech yn gwybod amdanyn nhw, neu nad oedd rhywun wedi eu hegluro na’u trafod yn ddigonol hefo chi ymlaen llaw. Fe wnawn eich gorau i’r paratoi chi ar gyfer pob posibilrwydd. Gallai hyn hefyd olygu rhannu ambell stori sy’n codi ofn, ond rydym ni’n ceisio cydbwyso’r rhain gyda’r rhai bendigedig hefyd.
Efallai eich bod yn gwybod yn barod am y plentyn y byddwch yn gofalu amdano (megis aelod o’r teulu a gofalwr sy'n berthynas er enghraifft) ond yn y rhan fwyaf o achosion gallai gofalwr maeth fod yn gofalu am UNRHYW blentyn neu nifer o blant gwahanol.
“Dyma un o’r pethau mwyaf boddhaol y gallwch ei wneud ond gall fod yn anodd ar adegau. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig cael amser i ddysgu am lefel yr ymrwymiad sydd angen i chi ei roi, holi eich cwestiynau i gyd a dod i adnabod y tîm,” Gofalwr Maeth.
Mae angen bod yn siŵr
Rydym yn falch o ofalwyr maeth ein hawdurdod lleol a’r gwaith ardderchog maen nhw’n wneud yn gofalu am blant. Rydym yn ymddiried ein plant iddyn nhw. Mae angen i ni fod mor sicr ag y gallwn, y bydd pawb yn ofalwyr maeth da ar ôl eu cymeradwyo, ac ar ôl derbyn ein cefnogaeth.
“Os ydych chi’n edrych ar y pethau pwysig mewn bywyd na ddylech eu rhuthro, dyma un ohonyn nhw," Gweithiwr Cymdeithasol.