blog

gofalwyr maeth yn edrych yn ôl ar siwrnai 23 mlynedd o faethu gyda maethu cymru sir y fflint.

Cofnodwyd: Wednesday 10th July 2024
Blog i Mewn: Blogs

Anita-and-peter

Fy enw i yw Anita ac fe hoffwn rannu y siwrnai faethu yr wyf wedi cael yr anrhydedd i fod yn rhan ohoni gyda fy ngŵr Peter ers 23 o flynyddoedd. Mae’n siwrnai llawn cariad, gwydnwch ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth, ac un sydd wedi datblygu ein bywydau a’n cymuned.

Mae ein teulu yn cynnwys chwech o blant: pedwar biolegol a dau o faethu hirdymor - ac un ar ddeg o wyrion ac wyresau, un ohonynt hefyd drwy faethu hirdymor. Mae’r niferoedd hyn yn adrodd hanes teulu estynedig a ehangodd yn y modd mwyaf annisgwyl a hardd. Nid maethu plant yn unig wnaethom ni; bu i ni greu perthnasoedd hir oes sydd wedi cyfoethogi ein bywydau yn ddiamau.

 

"mae maethu yn fy ngwaed"

 

Mae maethu yn fy ngwaed. Wedi fy magu mewn teulu a oedd yn maethu a mabwysiadu, roedd y syniad o agor ein cartref i blant mewn angen yn rhan naturiol o fywyd. Mae’r traddodiad wedi parhau gyda fy merch, sydd hefyd wedi maethu a mabwysiadu plant. Mae’n etifeddiaeth o ofal a thosturi sy’n cwmpasu’r cenedlaethau.

 

"y bobl ifanc hyn yn parhau i fod yn rhan o’n teulu ni heddiw"

 

Roedd fy llwybr i fod yn ofalwr maeth yn gam naturiol o fy rôl fel gwarchodwr plant Cychwyn Cadarn. Gan gydbwyso’r ddwy rôl am ychydig, penderfynais y dylwn ganolbwyntio’n llwyr ar faethu, wedi fy nenu gan yr effaith yr oedd yn ei gael ar fywydau ifanc. Ein canolbwynt o safbwynt maethu yw gofal hirdymor. Rydym wedi derbyn tri lleoliad hirdymor, oll ar gyfer rhwng 14 a 22 o flynyddoedd, ac rwy’n falch o ddweud bod y bobl ifanc hyn yn parhau i fod yn rhan o’n teulu ni heddiw. Hefyd, rydym wedi darparu gofal mewn argyfwng a gofal seibiant ar sawl achlysur, gan gynnig hafan ddiogel i blant a chyfle i’w teuluoedd maeth gael seibiant.

I ddechrau, roedd ein cynlluniau maethu yn gymedrol. Bu i ni ddechrau gyda lleoliadau seibiant ac mewn argyfwng ar gyfer plant 4 i 11 oed, gan osgoi babanod a phlant gydag anghenion arbennig oherwydd ein hamgylchiadau - ond, fe aeth bywyd â ni ar drywydd gwahanol! Ein lleoliad cyntaf oedd dau o fabanod, ac roedd yr ail leoliad yn cynnwys dau fachgen gydag anghenion arbennig. Mae’r profiadau hyn wedi ein dysgu am bwysigrwydd hyblygrwydd a chapasiti’r galon ddynol i addasu a charu’n ddiamod.

 

"mae maethu’n heriol ac yn llawn boddhad."

 

Mae maethu’n heriol ac yn llawn boddhad. Heblaw am sicrhau diogelwch a lles y plant, ein nod oedd eu helpu i dyfu, i’w paratoi ar gyfer annibyniaeth a’u cynorthwyo i fod yn unigolion cyflawn. Yn amlwg ni allwn wneud hyn ar fy mhen fy hun, ac roedd ymdrech fel tîm fy nheulu, yn enwedig Peter, yn allweddol. Gyda’n gilydd, rydym wedi cydbwyso penderfyniadau’r galon a’r pen, gan greu amgylchedd gofalgar ar gyfer ein plant maeth.

Mae ein tîm hefyd wedi cynnwys gweithwyr cymdeithasol dynodedig, gweithwyr iechyd proffesiynol ac addysgwyr. O ddoctoriaid a deintyddion i nyrsys ysgol, niwrolegwyr, therapyddion iaith, ac arbenigwyr ymddygiad, mae pawb wedi cyfrannu at les y plant. Roedd ein nyrs ‘Plant sy’n derbyn gofal’ yn benodol yn anhygoel, yn mynd yr ail filltir bob tro.

Roedd addysg yn gonglfaen ein maethu. Roedd y plant angen addysg ffurfiol ac addysg gymdeithasol drwy weithgareddau fel jiwdo, pêl-droed, nofio a sglefrio iâ. Mae’r gweithgareddau hyn yn gofyn am gludiant, goruchwyliaeth, a chefnogaeth, weithiau i atal ymddygiad diangen. Un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr oedd grŵp Mockingbird - cymuned o ofalwyr maeth anhygoel sy’n gweithredu fel teulu estynedig. Roeddent yn darparu cyfleoedd aros dros nos, anturiaethau a theithiau ar gyfer y plant, tra bo’r gofalwyr maeth yn cefnogi ei gilydd gyda chyngor, sgyrsiau a chyfle i refru pan fo’r angen! Mae addysg hefyd yn allweddol ar gyfer gofalwyr maeth a, drwy gydol fy ngyrfa yn maethu, rwyf wedi ceisio addysg ychwanegol i wella fy sgiliau gyda chefnogaeth fy ngweithiwr cymdeithasol.

 

"rwy’n hynod falch o’r cyfle a byddwn yn ei wneud i gyd eto"


I grynhoi, mae maethu’n heriol ond yn fuddiol iawn. Rwy’n hynod falch o’r cyfle a byddwn yn ei wneud i gyd eto, gan wybod yr hyn yr wyf yn ei wybod yn awr. Mae ein taith wedi ein dysgu nad yw maethu’n golygu darparu cartref dros dro yn unig; mae’n ymwneud â llunio perthnasoedd hir oes, creu sefydlogrwydd a chynorthwyo pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

 

a allech chi wneud gwahaniaeth a maethu gyda eich awdurdod lleol, fel anita a peter?

 

Os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm dynodedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth, i’ch helpu chi i benderfynu a yw maethu yn addas i chi.

 

Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.