blog

gofalwyr maeth yn edrych yn ôl ar siwrnai 9 mlynedd o faethu gyda maethu cymru sir y fflint.

Cofnodwyd: Wednesday 13th November 2024
Blog i Mewn: Blogs

Jill and Megan

Gofalwyr maeth, Jill a Megan, yn edrych yn ôl ar siwrnai 9 mlynedd o faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint. 

 

pryd wnaethoch chi ddechrau maethu a beth wnaeth i chi ddewis bod yn ofalwyr maeth?

 

Yn 2016, gwnaeth Jill y penderfyniad mawr i fod yn ofalwr maeth. Roedd ei chymhelliant yn deillio o’i phrofiadau o weithio mewn ysgol gynradd, lle daeth ar draws nifer o blant sy’n derbyn gofal a oedd yn wynebu amgylchiadau heriol. Gwelodd Jill hysbyseb ar gyfer Maethu Cymru Sir y Fflint ac roedd yn teimlo mai hwn oedd yr amser iawn i weithredu.

Yr hyn a roddodd haen ychwanegol o ystyr i’r daith hon oedd y ffaith fod ei merch, Megan, wedi dewis camu i’r rôl hon gyda hi. Gyda’i gilydd aethant ati i groesawu’r cyfle anhygoel hwn i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant sy’n derbyn gofal, gan gryfhau eu perthynas eu hunain hefyd.

 

ers sawl blwyddyn ydych chi wedi bod yn maethu, a faint o blant ydych chi wedi’u maethu dros y cyfnod hwn?

 

Mae Jill a Megan wedi rhoi 9 mlynedd gwerthfawr i faethu, gan ddarparu gofal tymor byr / seibiant / brys i 15 o blant anhygoel. Maen nhw wedi bod yn allweddol wrth gefnogi teuluoedd maeth lleol eraill trwy ddarparu gofal maeth seibiant misol rheolaidd. 

 

beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am fod yn ofalwyr maeth?

 

Un o’r agweddau mwyaf boddhaol i Jill fu bod yn bresenoldeb sylweddol ym mywydau’r plant hyn. Mae hi’n trysori’r cyfle i gynnig safbwynt newydd iddynt, eu hatgoffa bod y byd yn fawr a’i fod yn llawn cyfleoedd iddynt. Mae Jill a Megan wedi rhoi ymdrech anhygoel i helpu pob plentyn yn eu gofal i gyflawni eu llawn botensial.

 

beth fyddwch chi'n ei golli am fod yn ofalwyr maeth?

 

Wrth i Jill a Megan fyfyrio am eu profiad, maen nhw’n mynegi faint fyddan nhw’n methu’r plant, sydd wedi dod yn rhan annatod o’u trefn ddyddiol. Bydd rhythm cyfarwydd bywyd bob dydd yn anodd i’w adael ar ôl. Maen nhw’n cofio’n annwyl am hapusrwydd yr egni bywiog sy’n llenwi eu cartref pan fydd gwahanol blant yn dod i aros.

Mae rhai o’u hatgofion anwylaf yn cynnwys eistedd o amgylch y bwrdd bwyd gyda’r plant, chwarae gemau a mwynhau eiliadau o hwyl yn ystod teithiau sgïo a physgota. Mae Megan yn cofio’n annwyl am deithiau car hir yn llawn chwerthin wrth iddynt chwarae amryw gemau, gyda’r plant yn aml yn meddwl am eu gemau creadigol eu hunain ar hyd y daith.

 

pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd ar ddechrau’r broses rŵan?

 

Gall taith faethu fod yn hir a llawn heriau, ond mae llawer mwy o bethau cadarnhaol na phethau negyddol. Mae’r gwobrau’n anhygoel ac mae’r daith hon wedi gwella eu lles yn fawr. Mae Jill yn pwysleisio bod gwybod ei bod wedi cael effaith, waeth pa mor fach yw’r effaith, yn ei gwneud hi’n hapus. Mae hi’n cydnabod, er eu bod wedi dysgu gwersi gwerthfawr i’r plant, mae’r plant hynny hefyd wedi rhannu doethineb a llawenydd â Megan a hithau, gan ddod â nhw i gyd yn agosach fel teulu.

Mae Jill a Megan yn argymell maethu trwy eu hawdurdod lleol yn llwyr, Maethu Cymru Sir y Fflint. Maen nhw’n credu bod y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan eu gweithiwr cymdeithasol, Catrin, wedi bod heb ei ail. Maen nhw’n teimlo’n gryf ei bod hi’n hanfodol i blant aros yn agos at eu hardal leol, oherwydd bod ymdeimlad o gymuned yn hanfodol ar gyfer eu hymdeimlad o berthyn.

Mae maethu wedi bod yn daith llawn cariad, dysgu ac atgofion parhaus i Jill a Megan, ac maen nhw’n gobeithio ysbrydoli pobl eraill i gymryd y cam gwerth chweil hwn.

 

allech chi wneud gwahaniaeth a maethu yn eich awdurdod lleol fel jill ac megan?

 

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.

 

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.