blog

gwarcheidwaid arbennig joanne a steve yn rhannu eu taith ar gyfer wythnos gofal gan berthnasau

Cofnodwyd: Thursday 3rd October 2024
Blog i Mewn: Blogs

Yn ystod Wythnos Gofal gan Berthnasau, fe wnaethom gyfweld â Joanne a Steve i glywed am eu taith o fod yn Gwarcheidwaid Arbennig gyda Sir y Fflint.

 

dywedwch wrthym am eich profiad o fod yn warcheidwad arbennig.

 

Nid oedd ein merch yn gallu edrych ar ôl ein hwyres oherwydd salwch.  Felly fe benderfynom ni edrych ar ôl ein hwyres.  Fel teulu, buom yn edrych i weld beth oedd y dewis gorau, a phenderfynu mai Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) oedd orau i bawb.  Cawsom gyfarfod gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol am symud ymlaen, yna roedd angen cysylltu â chyfreithiwr a gyflwynodd hysbysiad o fwriad er mwyn dechrau’r broses.  Cysylltodd aelod o’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol â ni sy’n delio gydag SGO a threfnwyd cyfarfod a rhoddwyd gwybodaeth i ni am y broses ymgeisio.

 

pa gefnogaeth gawsoch chi gan yr awdurdod lleol?

 

Rhoddodd y ddynes oedd yn delio â’r SGO lawer o gefnogaeth i ni, gan ein harwain drwy’r broses.  Os oedd unrhyw broblemau, fe’n helpodd ni i’w datrys.  Mae’n broses hir, ond daethom ni drwyddi gyda’r help a gawsom gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

beth aeth yn dda yn eich barn chi?

 

Cawsom gefnogaeth dda a helpodd y broses i redeg yn llyfn.

 

pa feysydd y gellid eu gwella?

 

Yn ein profiad ni, aeth popeth yn dda.  Fedrwn ni ddim meddwl am unrhyw beth i wella’r broses.

 

pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd ar ddechrau’r broses rŵan?

 

Mae’r broses yn teimlo’n anodd ac mae llawer i’w gymryd i mewn.  Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to.  Gyda help y Gwasanaethau Cymdeithasol, fe ddowch chi drwyddi, a bydd popeth yn werth ei wneud yn y pen draw.  Byddwch yn onest â’ch atebion bob amser, a bydd popeth yn rhedeg yn llyfn.

 

unrhyw sylwadau eraill?

 

Hoffem sôn am y ddynes o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd hi’n wych a llwyddodd i wneud y broses yn haws i ni.  Heb ei gofal, cefnogaeth ac arweiniad, byddai’r broses wedi bod yn anodd.  Mae’n dangos bod y broses yn werth chweil pan fyddwn ni’n gweld pa mor hapus yw ein hwyres rŵan, a’i gweld yn ffynnu ac yn hapus yn ei hysgol newydd.  Felly hoffem ddiolch i’r tîm cyfan.

 

cefnogaeth

 

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Gwarchodaeth Arbennig ar gael bob amser, a gallwch gysylltu â ni drwy sgosupport@flintshire.gov.uk neu ein gwefan: Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.

Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud, a gobeithiwn eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi a'ch dathlu yn ystod Wythnos Gofal gan Berthnasau.