Dychmygwch fyd lle mae Gofalwyr Maeth profiadol...
drosglwyddo'r hyn y maent wedi'i ddysgu i eraill dros y blynyddoedd....
Lle mae cefnogaeth i ofalwyr maeth newydd gan gymheiriaid ar gael.
A gall blant fynd i aros dros nos gyda gofalwyr maeth y maent yn eu hadnabod, heb ormod o waith papur.
Croeso i Mockingbird
Mockingbird yw model teulu estynedig o ofal maeth a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu. Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yw'r partner mockingbird cyntaf y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru. Flintshire Fostering Service is The Fostering Network’s first mockingbird partner in Wales.
Beth yw Mockingbird?
Mae'r Model Mockingbird yn ddull arloesol o ofal maeth gan ddefnyddio’r Model Teulu Mockingbird. Mae hwn yn fodel teulu estynedig sydd yn darparu gofal seibiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, cynllunio a hyfforddiant rheolaidd ar y cyd, a gweithgareddau cymdeithasol.
Mae’r rhaglen Mockingbird wedi seilio ar Fodel Teulu Mockingbird, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan The Mockingbird Society yn America yn 2004.
Mae’r model Mockingbird, a addaswyd gan y Rhwydwaith Maethu, yn fodel lle mae un cartref maeth yn gweithredu fel hwb i ofalwyr gofalwyr yn cynnig arhosiad dros nos wedi’u cynllunio a rhai brys, yn ogystal â chyngor, hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’r hwb gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth i oddeutu 6 i 10 o ofalwyr maeth yn eu cymuned. Nod y rhaglen yw gwella sadrwydd lleoliad ar gyfer y plentyn a’r teulu maeth a'u helpu i adeiladu perthynas cryfach.