Browser does not support script.
maethu yn sir y fflint
Fel gofalwr maeth gyda Chyngor Sir y Fflint, nid yn unig y byddwch chi’n cael effaith arwyddocaol ar fywydau plant a phobl ifanc sydd angen cartref diogel a llawn cariad, fe welwch chi effaith hefyd ar eich twf a’ch boddhad personol. Fel un o weithwyr y Cyngor, fe gewch chi lu o fuddion a fydd yn golygu y bydd maethu gyda ni yn rhoi mwy fyth o foddhad i chi.
Meddai Caroline, gofalwr maeth sy’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint, “Manteisiwch ar y cyfle hwn gyda meddwl agored ac agwedd gadarnhaol. Peidiwch ag amau eich gallu i ddilyn gyrfa yng Nghyngor Sir y Fflint a chynnig cefnogaeth i blentyn sy’n derbyn gofal ar yr un pryd.” I ddysgu mwy am brofiad Caroline, darllenwch ei blog yma: mae caroline yn rhannu ei phrofiad o fod yn weithiwr cyngor sir y fflint ac yn ofalwr maeth
Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth i fywydau plant Sir y Fflint. Cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint i gael sgwrs gyfeillgar heb unrhyw ymrwymiad gydag aelod o’n tîm ymroddedig, i’ch helpu i benderfynu ai maethu yw’r dewis cywir i chi.