pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu?
Rydych chi'n unigryw, gyda'ch sgiliau a'ch cryfderau eich hun, ac mae'r ffordd y bydd eich teulu maeth yn edrych yn unigryw hefyd.
paru – sut mae’n gweithio
Rydyn ni’n gweithio gyda chi i baru plant â’r cartref iawn.
Mae’n golygu gwrando arnoch chi, dod i’ch adnabod, dod i adnabod eich teulu, eich bywyd, eich cartref. Gallwn wedyn eich paru chi â'r plentyn maeth sy'n cyd-fynd orau â'ch sgiliau a'ch amgylchiadau.
Mae paru yn y ffordd orau yn bwysig i ni. Ac mae’r rheswm am hynny’n syml: mae gwell paru’n golygu gwell canlyniadau.